Cadfan | |
---|---|
Ganwyd | c. 530 ![]() Llydaw ![]() |
Bu farw | 590 ![]() Cymru ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig ![]() |
Blodeuodd | 550 ![]() |
Swydd | abad ![]() |
Dydd gŵyl | 1 Tachwedd ![]() |
Sant Cymreig oedd Sant Cadfan (fl.550?) a sefydlodd yr eglwys yn Nhywyn, Gwynedd, a gysegrir iddo, ac ef oedd abad cyntaf Ynys Enlli.
Daw y rhan fwyaf o'r wybodaeth amdano o awdl Canu Cadfan gan Llywelyn Fardd yn y 12g. Mae traddodiad iddo arwain mintai o seintiau Cymreig i Lydaw a dywedir ei fod yn fab i Eneas y Llydawr. Yn ôl Llyfr Llandaf, hwylio i Dywyn o Armorica wnaeth ef a deuddeg arall. Yn ôl traddodiad Llydaw yw Armorica, er bod rhai yn cynnig mai o ysgol Gristnogol ar lan y môr ym Mhrydain y daeth, megis Llanilltud Fawr. Yn ôl traddodiad ei glas yn Nhywyn oedd y cyntaf a sefydlwyd ganddo yng Nghymru.
Cadfan ydyw nawddsant Llangadfan, Sir Drefaldwyn. Ei waith pennaf oedd sefydlu'r ‘clas’ yn Nhywyn, Meirionnydd; yr oedd i'r sefydliad hwn abad mor ddiweddar â 1147, ac yr oedd yno nifer o glerigwyr yn 1291. Tywyn oedd mam-eglwys pob rhan o Feirionnydd-is-Dysynni .
Ei ddydd gŵyl yw 1 Tachwedd.