Math | cwmwd ![]() |
---|---|
Cysylltir gyda | Llywelyn ap Gruffudd Fychan ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Yn ffinio gyda | Mallaen, Maenor Deilo, Catheiniog, Mabelfyw ![]() |
Cyfesurynnau | 52.055°N 3.957°W ![]() |
![]() | |
Cwmwd canoloesol yn gorwedd yng nghanol Y Cantref Mawr yn Ystrad Tywi, de-orllewin Cymru, oedd Caeo. Roedd yn rhan o deyrnas Deheubarth ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o Sir Gaerfyrddin.
Gorweddai cwmwd Caeo yng nghanol y Cantref Mawr, ar ran uchaf cwrs Afon Cothi. Ffiniai â chymydau Mallaen, Maenor Deilo, Catheiniog a Mabelfyw yn y Cantref Mawr, a Mebwynion a Pennardd i'r gogledd yn nheyrnas Ceredigion.
Mae Cynwyl Gaeo, un o gymunedau Sir Gaerfyrddin heddiw, yn cyfateb yn fras i diriogaeth yr hen gwmwd.