![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cynwyl Gaeo ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.0415°N 3.9328°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
![]() | |
Pentref yng nghymuned Cynwyl Gaeo yn Sir Gaerfyrddin yw Caeo neu Caio. Saif ychydig i'r dwyrain o'r briffordd A482 gerllaw pentref Pumsaint a Crugybar, tua hanner y ffordd rhwng Llanbedr Pont Steffan a Llanymddyfri, lle mae Afon Annell a Nant Frena yn cyfarfod.
Cysegrwyd yr eglwys i Sant Cynwyl. Gerllaw mae ffordd Rufeinig, a heb fod ymhell o'r pentref mae mwynglawdd aur Rhufeinig Dolaucothi. Daliai Llywelyn ap Gruffudd Fychan diroedd yn yr ardal.