Golygfa ar y mur amddiffynnol deheuol gyda Afon Conwy, Castell Conwy a Gyffin yn y cefndir. | |
Math | caer lefal ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2826°N 3.8617°W ![]() |
Cod OS | SH7598177799 ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN012 ![]() |
Mae Caer Seion yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Conwy yn Sir Conwy, Cymru; cyfeirnod OS: SH759777. Enwau arall arni yw (Castell) Caer Leon neu Castell Caer Seion. Mae'n sefyll ar gopa uchaf Mynydd Caer Seion (Mynydd y Dref), 806 troedfedd uwchben lefel y môr a thua milltir a hanner i'r gorllewin o dref Conwy yng ngogledd Cymru.
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN012.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.