Math | bryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig, bryngaer sy'n dilyn y llethr, bryngaer |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9892°N 3.3601°W, 52.989258°N 3.36024°W |
Cod OS | SJ0876544395 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | ME012 |
Bryngaer o Oes yr Haearn 1 filltir i'r gogledd o Gorwen yn ne Sir Ddinbych yw Caer Drewyn (weithiau Caer Drewin). Fe'i lleolir ar fryn uwchlaw Dyffryn Edeirnion ar uchder o tua 280 medr. Wrth waelod y gaer mae cymuned fechan Pentre Trewyn - cyfeiriad grid SJ087444.
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: ME012.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Rhed Afon Dyfrdwy islaw. O safle'r fyngaer ceir golygfeydd eang o Ddyffryn Edeirnion ac o'r mynyddoedd i'r gorllewin a'r gogledd.