Arwyddair | Nisi Dominus Frustra |
---|---|
Math | dinas, tref goleg, lieutenancy area of Scotland, Scottish county of city, dinas fawr, sir fetropolitan |
Poblogaeth | 488,050 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Frank Ross |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Caeredin |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 259 ±1 km² |
Uwch y môr | 47 ±1 metr |
Gerllaw | Water of Leith, Afon Almond, Afon Forth, Moryd Forth |
Cyfesurynnau | 55.9533°N 3.1892°W |
Cod SYG | S20000463 |
Cod OS | NT275735 |
Cod post | EH1-EH13 |
GB-EDH | |
Pennaeth y Llywodraeth | Frank Ross |
Prifddinas yr Alban er 1492 yw Caeredin (Saesneg: Edinburgh;[1] Gaeleg yr Alban: Dùn Èideann;[2] Sgoteg: Embra neu Edinburrae).[3] Saif ar arfordir dwyreiniol y wlad ac ar lan deheuol Moryd Forth. Yma mae Senedd yr Alban, a gafodd ei hail-sefydlu ym 1999. Gyda phoblogaeth o 495,360 in 2011 (cynnydd o 1.9% ers 2010),[4] dyma'r ddinas fwyaf yn Lothian a saif yng nghanol ardal boblog sy'n cynnwys odeutu 850,000 o drigolion.[5]
Mae Dinas Caeredin yn un o awdurdodau unedol yr Alban. Mae'r ddinas yn enwog am Ŵyl Caeredin, ei chastell hond a'r dathliadau Hogmanay.
Mae enw'r ddinas yn dod o'r Frythoneg Din Eidyn, sef Caer Eidyn. Safai un o amddiffynfeydd y Gododdin ar y lle, efallai yn perthyn i'r brenin Clydno Eiddin, yng nghanol y chweched ganrif. Ar ôl ei goresgyn gan y deyrnas Seisnig Bernicia newidiwyd yr enw i Edin-burh, efallai gyda dylanwad enw Edwin, brenin Northumbria. Ond ni lwyddodd yr Eingl-Sacsoniaid i ymsefydlu dim pellach i'r gogledd na Chaeredin, ac erbyn y 10g roedd y Saeson wedi colli gafael ar yr ardal hon i frenhinoedd yr Alban.