![]() | |
![]() | |
Math | dinas, tref sirol, ardal ddi-blwyf ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Caerwynt |
Poblogaeth | 35,200 ![]() |
Gefeilldref/i | Gießen ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Hampshire (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Yn ffinio gyda | Littleton and Harestock ![]() |
Cyfesurynnau | 51.0633°N 1.3086°W ![]() |
Cod SYG | E43000074 ![]() |
Cod OS | SU485295 ![]() |
Cod post | SO22, SO23 ![]() |
![]() | |
Dinas yn Hampshire, De-ddwyrain Lloegr, yw Caerwynt neu Caer-wynt (Saesneg: Winchester).[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn ardal an-fetropolitan Dinas Caerwynt. Mae'n ganolfan weinyddol yr ardal an-fetropolitan honno, yn ogystal â sir seremonïol Hampshire a sir an-fetropolitan Hampshire. Saif ar lan Afon Itchen. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Caerwynt boblogaeth o 45,184.[2] Mae'n ddinas hanesyddol sy'n gartref i Eglwys Gadeiriol Caerwynt, a godwyd yn yr 11g ar safle eglwys gynharach. Fel prifddinas teyrnas Sacsonaidd Wessex a safle llys ei brenhinoedd, bu bron mor bwysig â Llundain yng nghyfnod yr Eingl-Sacsoniaid. Mae'n gartref i Goleg Caerwynt, ysgol gyhoeddus hynaf Lloegr, a sefydlwyd gan William o Wykeham yn 1382. Bu farw'r nofelydd Jane Austen yn y ddinas.