Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nid yw caethwasiaeth ynddo'i hun yn groes i ddysgeidiaeth Islam, ond mae'r Corân, yr hadith, ac ysgolheictod Islamaidd fel rheol yn cyfyngu ar yr arfer hon. Ceir corff cymhleth o safbwyntiau ar y pwnc gan feddylwyr Islamaidd[1][2] sydd yn amrywio yn ôl grŵp, mudiad, gwlad, ac oes.[3] Bu caethwasiaeth yn rhan o fywyd Arabia yn y cyfnod cyn-Islamaidd, yn bennaf o ganlyniad i ryfel.[1][4] Ni cheisiai'r Corân (datguddiad Allah) na'r hadith (dywediadau'r Proffwyd Muhammad) wahardd caethwasiaeth a chafodd parhad yr arfer ei gymryd yn ganiataol gan Muhammad a'i ddilynwyr.[4][5] Yn ôl dogma Islamaidd gynnar, gwaherddir caethiwo'r rhai sydd yn aelodau rhydd o gymdeithas Islamaidd, gan gynnwys yr an-Fwslimiaid (dhimmi) a ddiogelsant dan drefn sharia, a gosodir rheolau i wella amodau'r caethweision. Yn ôl sharia, dim ond an-Fwslimiaid a gawsant eu cipio neu eu prynu y tu hwnt i ffiniau'r tiroedd Islamaidd, neu feibion a merched y rhai a oedd yn gaethweision yn barod, sydd yn gyfreithlon gaethweision.[4] Trafodir pwnc caethwasiaeth yn eang gan gyfreithegwyr Islamaidd clasurol.[3] O ran materion crefyddol, cafodd caethweision, boed yn Fwslimiaid neu o ffydd arall, eu hystyried yn gydradd â'u cyd-addolwyr.[6] Nid yw cyfreitheg Islamaidd yn sôn am elfen hiliol neu ethnig yn y drefn hon, ond mewn gwirionedd byddai'r mwyafrif o gaethweision yn tarddu o bobloedd wahanol i'r rhai a oedd yn berchen arnynt.[7]
Yn hanesyddol, bu'r mwyafrif o gaethweision yn y byd Mwslimaidd naill ai yn weision a morwynion y tŷ neu yn filwyr, mewn cyferbyniad â chaethwasiaeth yn y Byd Newydd a oedd yn seiliedig ar economi'r planhigfeydd. Bu eraill yn gweithio fel dyfrhawyr, cloddwyr, neu bugeiliaid. Brwydrodd y milwyr ar orchymyn y califf neu'r swltan, a phenodwyd rhai ohonynt i swyddi uchel yn y llywodraeth a'r weinyddiaeth. Tyfodd y byddinoedd o gaethweision nes iddynt wrthryfela a sefydlu tiriogaethau neu lywodraethau a oedd yn annibynnol ar yr hen galiffiaid a swltaniaid.[8] Rhoddir yr enw Mamlwciaid ar y caeth-filwyr a ddatblygodd yn ddosbarth rhyfelgar pwerus, a sefydlwyd sawl ymerodraeth a brenhinlin ganddynt, gan gynnwys y Ghaznavid (977–1186) a'r Khwarezmid (1077–1231) ym Mhersia a swltanaethau yng ngogledd yr India (1206–90), yn yr Aifft a'r Lefant (1250–1517), ac yn Irac (1704–1831). Weithiau byddent yn gwrthryfela o ganlyniad i gam-driniaeth, er enghraifft Gwrthryfel Zanj (869–883).[9]
Yn ystod yr Oesoedd Canol, gweithwyr rhydd yn derbyn tâl oedd yn cyfri am y rhan fwyaf o'r llafurlu ar draws y byd Mwslimaidd.[10] Serch hynny, roedd caethwasiaeth yn rhan bwysig o fywyd economaidd a chymdeithasol ac nid oedd twf fewnol y boblogaeth o gaethweision yn ddigonol i gyflawni'r galw amdanynt. Er gwaethaf ymdrechion y testunau sanctaidd i gyfyngu ar gaethwasiaeth – neu yn bosib o'r herwydd y rheoliadau a ganiatâi'r arfer – tyfodd y fasnach gaethweision Arabaidd yn un o brif fasnachau y byd, a barodd o gyfnod Muhammad hyd at ganol yr 20g.[11] Ymledodd marchnadoedd caethweision i gyrion y byd Mwslimaidd, ar draws Gorllewin Asia, Gogledd Affrica, a De Ddwyrain Affrica, a chafodd ryw 17 miliwn o gaethweision eu hallforio i borthladdoedd Cefnfor India, y Dwyrain Canol, a Gogledd Affrica.[12] Yn sgil cwymp yr Ymerodraeth Otomanaidd a diddymu'r galiffiaeth ym 1924, cafodd caethwasiaeth ei gwahardd mewn gwledydd a threfedigaethau Mwslimaidd, yn bennaf dan bwysau llywodraethau'r Deyrnas Unedig a Ffrainc.[5] Daeth caethwasiaeth gyfreithlon i ben yn Sawdi Arabia ac Iemen ym 1962 ac yn Oman ym 1970, a gwnaed sawl ymdrech i ddiddymu'r arfer ym Mawritania yn 1905, 1981, a 2007.[13] Nid yw caethwasiaeth yn gyfreithlon yn yr un wlad yn yr 21g, ond er hynny mae'r arfer yn parhau o hyd, gan gaethfeistri a chaethfasnachwyr sydd yn hawlio awdurdod y Corân, mewn sawl gwlad Fwslimaidd, gan gynnwys Mawritania, Tsiad, Niger, Mali, a Swdan.[14][15]