![]() | |
Enghraifft o: | calendr Celtaidd, darganfyddiad archaeolegol, lunisolar calendar, arysgrif ![]() |
---|---|
Deunydd | efydd ![]() |
Dyddiad darganfod | 1897 ![]() |
Iaith | Galeg ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1 g ![]() |
Lleoliad | Lugdunum Musée et Théâtres ![]() |
![]() | |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin ![]() |
Hyd | 1.48 metr ![]() |
![]() |
Mae Calendr Coligny yn galendr yn yr iaith Aleg a ddarganfuwyd yn Coligny, Ain, gerllaw Lyon yn Ffrainc yn 1897.
Yn wreiddiol roedd y calendr yn dabled efydd 1.48m o led a 0.9m o uchder. Cafwyd hyd iddo mewn 73 darn. Ysgrifennwyd y calendr mewn llythrennau Lladin, a chredir ei fod yn dyddio o'r 2g. Mae 16 colofn gyda 62 mis wedi eu rhannu dros bum mlynedd.
Credai'r archaeolegydd Ffrengig J. Monard ei fod wedi ei gynhyrchu gan Dderwyddon oedd yn dymuno cadw eu traddodiad hwy o gadw amser ar adeg pan oedd y calendr Juliaidd yn cael ei ddefnyddio yn yr Ymerodraeth Rufeinig. Fodd bynnag mae'r calendr o ran ffurf yn debyg i'r calendrau peg cyhoeddus (parapegmata) a geir yn y byd Groegaidd a Rhufeinig.
Cafwyd hyd i galendr tebyg yn Villards d'Heria, ond dim ond 8 darn oedd ar gael o hwn. Ar sail y ddau yma, credir bod y calendr Celtaidd yn ymgais i gymhathu'r flwyddyn yn ôl yr haul a'r flwyddyn yn ôl y lleuad. Roedd y misoedd yn dilyn y lleuad, ond mae ysgolheigion yn anghytuno ai'r lleuad newydd neu'r lleuad llawn oedd yn dynodi dechrau mis. Roedd blwyddyn yn cynnwys 354 neu 355 diwrnod, ac yn dechrau gyda Samonios. Gall hyn gyfateb i Samhain yn Iwerddon; os felly byddai'r flwyddyn yn dechrau yn yr hydref. Ar y llaw arall mae Samon yn Galeg yn golygu "haf".
Roedd y misoedd wedi eu rhannu’n yn ddau hanner, gyda dechrau'r ail hanner yn cael ei nodi gan y term Atenoux. Yr uned sylfaenol felly yw pythefnos. Mae'r hanner cyntaf bob amser yn 15 diwrnod, a'r ail hanner yn 14 neu 15 diwrnod bob yn ail fis. Nodir misoedd o 30 diwrnod fel Mat(os), lwcus (cymharer "mad" yn Gymraeg; da), tra'r oedd misoedd o 29 diwrnod wedi eu nodi fel Anm(atos), anlwcus (cymharer "anfad").