Calgary Stampede

Calgary Stampede
Enghraifft o:gŵyl, digwyddiad blynyddol Edit this on Wikidata
LleoliadCalgary Edit this on Wikidata
Map
SylfaenyddThe Big Four Edit this on Wikidata
GwladwriaethCanada Edit this on Wikidata
RhanbarthAlberta Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://calgarystampede.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Marchogaeth ceffyl yng nghystadleuaeth rodeo y Stampede, 2006

Sioe fawr, rodeo ac arddangosfa yw'r Calgary Stampede, sy'n honni bod "Y Sioe Awyr Agored Fwyaf yn y Byd", a gynhelir yn ninas Calgary, Alberta, Canada am ddeg diwrnod yn yr haf, fel arfer ar ddechrau Gorffennaf, ac sy'n denu tua 1.2 miliwn o ymwelwyr. Mae'n un o ddigwyddiadau blynyddol mwyaf Canada a'r rodeo awyr agored mwyaf yn y byd. Yn ogystal â'r rodeo enwog, mae'n cynnwys sioeau o bob math, cyngherddau, cystadlaethau amaethyddol, rasio chuckwagon, arddgangosfeydd gan Genhedloedd Brodorol Canada, ac atyniadau eraill. Un o'r atyniadau traddodiadol yw Parêd y Stampede ar y diwrnod agoriadol. Mae'n cael ei arwain gan y Calgary Stampede Showband ac yn dilyn llwybr 4.5 km trwy downtown Calgary. Mae tua 350,000 o bobl yn ei wylio.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne