Camanachd

Camanachd
Mathchwaraeon tîm, chwaraeon peli, hoci Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Chwarae camanachd.

Chwaraeon cyswllt llawn Albanaidd ydy Camanachd neu Iomain (Saesneg: Shinty). Chwaraeir y gamp gyda ffon a phêl. Yn Ucheldiroedd yr Alban y dechreuodd y gêm, ac ucheldirwyr wedi symud i ddinasoedd yr Alban sy'n ei chwarae gan mwyaf ond tan yn ddiweddar arferid ei chwarae yn Lloegr a rhai gwledydd eraill ble gwelid mewnlifiad o Ucheldiroedd yr Alban.[1] Gelwir y gêm yn "hoci heb reolau" gan un chwaraewr.

Mae'r gêm yn perthyn i deulu campau hoci sy'n boblogaidd ar draws y byd mewn gwahanol ffurfiau. Mae'n debyg i [[Hyrli|hyrli] yn yr Iwerddon ac i'r gêm werin Bando a arferid ei chwarae yng Nghymru.

  1. Shinty in England, pre-1893 Archifwyd 2009-09-01 yn y Peiriant Wayback, The Sports Historian, 19:2(1999), 43–60

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne