![]() | |
Math | tref, plwyf sifil ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Ardal De Swydd Gaergrawnt |
Poblogaeth | 12,081 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaergrawnt (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Yn ffinio gyda | Knapwell ![]() |
Cyfesurynnau | 52.21814°N 0.06956°W ![]() |
Cod SYG | E04012746 ![]() |
Cod OS | TL318598 ![]() |
Cod post | CB23 ![]() |
![]() | |
Tref a phlwyf sifil yn Swydd Gaergrawnt, Dwyrain Lloegr, ydy Cambourne.[1] Saif tua 9 milltir (14 km) i'r gorllewin o ddinas Caergrawnt. Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan De Swydd Gaergrawnt. Dyma'r anheddiad mwyaf yr ardal an-fetropolitan, ac mae ei phencadlys i'w gael yma. Rhennir y dref yn dri phentref, sef Great Cambourne, Lower Cambourne ac Upper Cambourne.
Mae Cambourne yn anheddiad newydd a grëwyd o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gan Cyngor Sir Swydd Gaergrawnt a thri chwmni adeiladu. Dechreuodd y gwaith adeiladu ym Mehefin 1998 ar safle maes glas. Mae'r anheddiad yn dal i ehangu'n gyflym. Yng Nhyfridiad 2001 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 1,198; yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddo boblogaeth o 8,186; ac roedd ganddo boblogaeth o 10,390 yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[2] Yn wreiddiol fe'i dynodwyd yn bentref, ond ym Mawrth 2019 pleidleisiodd y cyngor plwyf i ddod yn gyngor tref.[3]