Cannabis | |
---|---|
Darluniau o blanhigyn Cannabis | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Rosales |
Teulu: | Cannabaceae |
Genws: | Cannabis L. |
Rhywogaethau | |
Cannabis sativa L. |
Mae Cannabis (Lladin fotanegol: Cán-na-bis) yn genws o blanhigyn blodeuol sy'n cynnwys tri rhywogaeth: Cannabis sativa, Cannabis indica a Cannabis ruderalis Janisch. Mae'r dair rywogaeth yn frodorol o ganolbarth Asia a'r ardaloedd o'i hamgylch.[1]
Cynhyrchwyd cywarch ac olew cywarch ers canrifoedd gan ddefnyddio plangigion Cannabis wedi'u dewis er mwyn cynhyrch cyn gymaint o ffibr a phosib gyda chyn lleied o lefelau o THC (Δ9- tetrahydrocannabinol), un o'r molecylau seicoweithredol sy'n cynhyrchu'r high sy'n gysylltiedig â marijuana. Caiff y cyffur cannabis ei gynhyrchud o'r planhigyn yn ogystal a'r fersiwn meddygol a ddefnyddir i atal poen. Mae'r cyffur yn cynnwys blodau a dail wedi'u sychu, o blanhigion wedi eu dewis i gynhyrchu lefelau uchel o TCH. Cynhyrchir hefyd nifer o echdynion yn cynnwys hashish ac olew hash.[2] Mae tyfu a meddiannau Cannabis ar gyfer defnydd hamddenol yn anghyfreithlon yn rhanfwyaf o wledydd y byd.
Yn fyd-eang yn 2013, cynhyrchwyd 60,400 cilogram o gannabis cyfreithiol.[3] Yn 2013 credir fod rhwng 128 a 232 miliwn o bobl wedi defnyddio cannabis er mwyn difyrru eu hunain (2.7% - 4.9% o boblogaeth y byd rhwng 15 a 65 oed.[4]