Cannabis sativa | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosperms |
Ddim wedi'i restru: | Eudicots |
Ddim wedi'i restru: | Rosids |
Urdd: | Rosales |
Teulu: | Cannabaceae |
Genws: | Cannabis |
Rhywogaeth: | C. sativa |
Enw deuenwol | |
Cannabis sativa L. | |
Subspecies | |
C. sativa ssp. sativa |
Planhigyn unflwydd llysieuaidd yn perthyn i'r genws Cannabis, sydd yn rhywogaeth o deulu'r Cannabaceae yw Cannabis sativa. Mae pobl wedi bod yn meithrin a defnyddio cannabis sativa trwy gydol hanes cofnodedig fel ffynhonnell ffibr (sef Cywarch), am ei hadau a'i olew, at ddifyrrwch personol, dibenion crefyddol ac ysbrydol ac at ddibenion meddygol. Mae pob rhan o'r planhigyn yn cael ei fedi mewn ffyrdd gwahanol, yn ôl ei defnydd.[1]
Defnyddir ei hadau i wneud olew cywarch a gaiff ei ddefnyddio i goginio, mewn lampau golau, i wneud farnais caled neu baent. Fe'i defnyddir hefyd i fwydo adar dof ac mae ynddynt beth maeth addas i rai adar. Yn y blodau a'r dail ceir cannabinoids a ddefnyddir i sawl pwrpas: difyrrwch a meddygol. O'u trin yn arbennig, gellir creu hashish a ysmygir, anwedd (vapour) neu ei lyncu. Yn y gorffennol, arferid eu rhoi ar tincture, mewn te perlysieuol neu ar ffurf eli. Fe'i defnyddir o fewn meddyginiaethau traddodiadol India i greu rhithbair, hypnotiaeth, fel tawelydd, i liniaru poen ac yn wrthlidiol.[2]