Math | caer Rufeinig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2161°N 3.8341°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN001 |
Caer Rufeinig yn Britannia oedd Canovium, sydd heddiw wedi'i lleoli ym mhentref Caerhun, Sir Conwy. Saif gweddillion Canovium ar y ffordd Rufeinig rhwng Deva (Caer) a Segontium (Caernarfon). Saif ar lan orllewinol Afon Conwy, rhwng Tŷ'n-y-groes a Dolgarrog ar y B5106, a gerllaw man lle gellir rhydio'r afon. Mae'n 24 milltir o Segontium, taith diwrnod i droedfilwyr Rhufeinig.