Delwedd:Bladder urothelial carcinoma histopathology (2) at trigone.jpg, Papillary urothelial carcinoma of bladder.jpg | |
Enghraifft o: | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | canser y system wrinol, clefyd y bledren, bladder neoplasm, clefyd |
Arbenigedd meddygol | Oncoleg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae canser y bledren ymhlith nifer o ganserau sy'n deillio o feinweoedd y bledren wrinol.[1] Twf annaturiol o gelloedd yw canser, ac maent â'r gallu i ymosod ar, neu ledaenu i rannau eraill o'r corff.[2] Mae symptomau'r cyflwr yn cynnwys gwaed yn yr wrin, poen wrth ollwng dŵr, a phoenau yng ngwaelod y cefn.
Mae ffactorau risg canser y bledren yn cynnwys ysmygu, hanes teuluol o'r cyflwr, therapi ymbelydredd cynt, heintiau aml ynghylch y bledren, a datguddiad i gemegau penodol. Y math mwyaf cyffredin yw carsinoma celloedd trawsnewidiol. Daw mewn fersiynau eraill yn ogystal gan gynnwys carsinoma celloedd cennog ac adeno carsinoma.[3] Gwneir diagnosis fel arfer drwy gysosgopi gyda biopsïau meinwe. Gellir canfod ymlediad a phennod y canser drwy ddelweddu meddygol megis sgan CT a sgan esgyrn.
Rhoddir triniaeth yn seiliedig ar bennod y canser. Mae'n bosib iddo gynnwys cyfuniad o lawdriniaethau, therapïau ymbelydredd, cemotherapi, neu imiwnotherapi. Gall opsiynau llawfeddygol gynnwys echdyniad trawswrethrol, gwaredu'r bledren yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu atgyfeiriad wrinol. Mae 77% o ddioddefwyr yn byw o leiaf pum mlynedd wedi diagnosis yn yr Unol Daleithiau.[4]
Yn 2015 yr oedd oddeutu 3.4 miliwn yn dioddef y cyflwr ar draws y byd, a cheir 430,000 o achosion newydd yn flynyddol. Yn gyffredinol, mae'r canser yn dechrau datblygu mewn dioddefwyr rhwng 65 a 85 mlwydd oed. Nid yw'n taro menywod ar yr un raddfa a dynion. Yn 2015 arweiniodd at 188,000 o farwolaethau.[5]
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)