Enghraifft o: | lleoliad chwedlonol ![]() |
---|---|
![]() | |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Gwlad a foddwyd gan y môr mewn chwedloniaeth Gymreig oedd Cantre'r Gwaelod neu Maes Gwyddno. Dywedid ei bod wedi ei lleoli yn yr hyn sydd yn awr yn Fae Ceredigion. Mae'n perthyn i ddosbarth rhyngwladol o chwedlau am diroedd boddedig, yn cynnwys y chwedl Lydewig am Kêr-Ys. O'r gyfrol Cymru Fu gan Isaac Foulkes y tardda'r chwedl gyfarwydd.
Yn ôl y chwedl, roedd Cantre'r Gwaelod yn wlad gyfoethog, oedd yn cael ei hamddiffyn rhag y môr gan gloddiau Sarn Badrig a llifddorau. Arglwydd Cantre'r Gwaelod oedd Gwyddno Garanhir, oedd yn teyrnasu yng Nghaer Wyddno.
Yn y fersiwn gynharaf o'r chwedl hon, sef fersiwn Llyfr Du Caerfyrddin, boddwyd y deyrnas oherwydd esgeulusdod morwyn-ffynnon o'r enw Mererid. Yn y fersiwn ddiweddarach, roedd y llifddorau yng ngofal Seithenyn. Meddwodd Seithenyn adeg gwledd, ac esgeulusodd gau'r llifddorau. O ganlyniad gorchuddiwyd Cantre'r Gwaelod gan y môr a boddwyd pawb o'r trigolion heblaw Gwyddno Garanhir ei hun. Yn ôl traddodiad llafar, o wrando'n ofalus iawn ar ddiwrnod tawel, gellir clywed o hyd sŵn y clychau'n canu - y clychau a genid i rybuddio pobl fod y llanw'n dod i mewn a'r llifddorau i'w cau.