Enghraifft o: | galwedigaeth, rôl |
---|---|
Math | ymgyrchydd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y weithred o ddatgelu'n gyhoeddus gamymddygiad o fewn sefydliad yw canu cloch (Saesneg: whistleblowing).[1] Gall y camymddygiad fod yn drosedd, torri rheoliadau, twyll, anwybyddu safonau iechyd a diogelwch, llygredigaeth ac yn y blaen.
Yn aml mae unigolion sy'n canu cloch yn wynebu diswyddiad, erlyniad neu gosbau eraill. Yn y Deyrnas Unedig mae Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 yn darparu amddiffyniad dan y gyfraith i unigolion sy'n datgelu gwybodaeth er mwyn amlygu camymddygiad.[2]