Capel Curig

Capel Curig
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth206, 218 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd7,842.09 ha Edit this on Wikidata
GerllawAfon Llugwy (Powys), Afon Ogwen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.105°N 3.913°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000111 Edit this on Wikidata
Cod OSSH720582 Edit this on Wikidata
Cod postLL24 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/au y DUClaire Hughes (Llafur)
Map

Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Capel Curig.[1][2] Fe'i lleolir yng nghanol Eryri ar groesffordd lle mae'r A4086 o/i gyfeiriad Nant Gwynant a Beddgelert yn ymuno â'r A5.

Enwir y pentref ar ôl y clas a sefydlwyd gan y sant Curig (fl. 550?) yno. Yn anffodus cafodd yr eglwys bresennol, sy'n sefyll mewn llan ger y pentref, ei hatgyweirio'n sylweddol yn y 19g. Eglwys fechan yw hi, 32 wrth 15 troedfedd gyda thransept sgwar diweddarach. Yn Oes y Tywysogion roedd yn perthyn i Briordy Beddgelert. Ceir llecyn o'r enw 'Gelli'r mynach' ar yr hen lôn i gyfeiriad Llyn Ogwen a Nant Ffrancon. Tu ôl i'r eglwys saif bryn isel Cefn y Capel. Cysegrir yr eglwys bresennol i Sant Cyriacus a'i fam Julitta.

Ar y ffordd i Fetws-y-Coed, 1 km ar ôl Pont Cyfyng i'r de-ddwyrain, ceir caer Rufeinig ar fferm Bryn-y-Gefeiliau, a sefydlwyd tua OC 90-100; fe'i henwyd Caer Llugwy gan yr archaeolegwyr a fu'n cloddio yno.

Mae'r pentref yn ymestyn o gwmpas y groesffordd ac ar hyd y lôn i gyfeiriad Betws-y-Coed i'r dwyrain. Mae'n dibynnu i raddau helaeth ar dwristiaeth ac mae siopau gweithgareddau awyr agored a gwestai yn amlwg yno.

Ceir golygfeydd bendigedig ac enwog o Lynnau Mymbyr a phedol Yr Wyddfa o Gapel. Trawiadol hefyd yw llethrau agored Moel Siabod i'r de-ddwyrain a mynyddoedd y Carneddau a rhan o'r Glyderau i'r gogledd. Yng Nghapel Curig y ganwyd Alwyn Rice Jones, Archesgob Cymru o 1991 hyd 1999.

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne