![]() | |
Math | capel, atyniad twristaidd, priodwedd cenedlaethol, eglwys Gatholig ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Pab Sixtus IV ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Palas y Fatican ![]() |
Sir | y Fatican ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 41.9031°N 12.4544°E ![]() |
Hyd | 40.9 metr ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth y Dadeni ![]() |
Sefydlwydwyd gan | Pab Sixtus IV ![]() |
Cysegrwyd i | dyrchafael Mair ![]() |
Crefydd/Enwad | Catholigiaeth ![]() |
Esgobaeth | Esgobaeth Rhufain ![]() |
Prif gapel Palas y Fatican yn Rhufain ydy'r Cappella Sistina (hefyd y Capel Sistinaidd a Capel Sixtus). Dyma leoliad y conclafau (cymanfaoedd cardinaliaid) sydd yn dewis Pab newydd, ond mae'r capel yn bennaf yn enwog am ei ffresgoau gan Michelangelo, a chaiff eu hystyried yn rai o gampweithiau'r Dadeni.
Mae'r capel yn dwyn enw Pab Sixtus IV, ag adnewyddodd y capel rhwng 1477 and 1480. Ar yr adeg yma gwahoddwyd yr arlunwyr Pietro Perugino, Sandro Botticelli, Pinturicchio, Domenico Ghirlandaio a Cosimo Rosselli i addurno'r muriau â golygfeydd o fywydau Moses a'r Iesu a phortreadau dychmygol o'r pabau cynnar. Rhwng 1508 a 1512, dan nawdd Pab Iŵl II (nai Sixtus), addurnodd Michelangelo y nenfwd â golygfeydd o lyfr Genesis (yn enwocaf oll, Duw yn creu Adda), ynghyd â ffigyrau proffwydi'r Hen Destament, siblïaid yr Henfyd a chyndadau Crist. Yn hwyrach, rhwng 1535 a 1541, dychwelodd Michelangelo i beintio'r ffresgo Dydd y Farn ar wal yr allor, ar gyfer y pabau Clement VII a Pawl III. Mae'r addurniadau felly yn ymgais i ddangos holl ddigwyddiadau pwysicaf hanes y greadigaeth yn ôl y Beibl. Er nad ydynt yn addurniadau parhaol, mae cyfres o dapestrïau gan Raffael yn dangos bywydau'r saint Pedr a Paul (o lyfr yr Actau), a'u comisiynwyd gan Pab Leo X, yn atgyfnerthu'r syniad hyn.