Llyfr yn olrhain hanes sir unigryw Ceredigion yn yr iaith Saesneg gan Mike Benbough-Jackson yw Cardiganshire: The Concise History a gyhoeddwyd gan Gwasg Prifysgol Cymru yn 2007. Yn 2014 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Mae'r gyfrol yn trafod y tirlun, pobl, arferion a chanolfannau addoliad yn eu cyd-destun hanesyddol.