Cardinal (Yr Eglwys Gatholig)

Urddwisg y cardinal ar ddymi: casog goch, gwenwisg ag ymylwaith les, mantell goch, a'r frongroes. Ar waelod y dymi, o'r chwith i'r dde: cap corun, meitr, a gwregys neu sash.

Un o brif swyddogion yr Eglwys Gatholig Rufeinig ac aelod o Goleg y Cardinaliaid yw cardinal.[1] Ymhlith ei swyddogaethau mae ethol y pab, cynghori'r pab, a llywodraethu'r Eglwys Gatholig drwy Lys y Pab. Fel rheol, esgob neu archesgob dros esgobaeth fawr yw cardinal, ac weithiau'n llysgennad ar ran Esgobaeth y Pab.[2]

Y teitl "Arucheledd"[3] yw'r dull o gyfarch cardinal, ac fe'i elwir hefyd yn "Dywysog yr Eglwys".

  1.  cardinal. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 23 Ionawr 2017.
  2. (Saesneg) cardinal (Roman Catholicism). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Ionawr 2017.
  3. Geiriadur yr Academi, [eminence: Your Eminence].

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne