Carlos | |
---|---|
Tywysog of Asturias | |
Portread gan Alonso Sánchez Coello, 1564 | |
Ganwyd | 8 Gorffennaf 1545 Valladolid, Spain |
Bu farw | 24 Gorffennaf 1568 Madrid, Spaen | (23 oed)
Claddwyd | El Escorial |
Teulu | Habsburg |
Tad | Felipe II, brenin Sbaen |
Mam | Maria Manuela, Tywysoges Portiwgal |
Crefydd | Catholig |
Carlos, Tywysog Asturias, a elwir hefyd yn Don Carlos (8 Gorffennaf 1545 - 24 Gorffennaf 1568), oedd mab hynaf ac edling Brenin Felipe II o Sbaen. Ei fam oedd Maria Manuela o Bortiwgal, merch John III o Bortiwgal. Roedd Carlos yn ansefydlog yn feddyliol a chafodd ei garcharu gan ei dad yn gynnar yn 1568, lle bu farw ar ôl hanner blwyddyn yn gaeth ar ei ben ei hun. Roedd ei dynged yn thema yn Chwedl Ddu Sbaen, ac ysbrydolodd ddrama gan Friedrich Schiller ac opera gan Giuseppe Verdi.