Caroline Lucas | |
---|---|
Arweinydd Plaid Werdd Cymru a Lloegr | |
Yn ei swydd 5 Medi 2008 – 5 Medi 2012 | |
Dirprwy | Adrian Ramsay |
Rhagflaenwyd gan | Neb |
Dilynwyd gan | Natalie Bennett |
Prif Lefarydd y Blaid Werdd | |
Yn ei swydd 30 Tachwedd 2007 – 5 Medi 2008 | |
Rhagflaenwyd gan | Siân Berry |
Dilynwyd gan | Neb |
Yn ei swydd 2003 – 24 Tachwedd 2006 | |
Rhagflaenwyd gan | Margaret Wright |
Dilynwyd gan | Siân Berry |
Aelod Seneddol dros Brighton Pavilion | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Mai 2010 | |
Rhagflaenwyd gan | David Lepper |
Mwyafrif | 1,252 (2.4%) |
Aelod Senedd Ewrop dros De-ddwyrain Lloegr | |
Yn ei swydd 14 Mehefin 1999 – 6 Mai 2010 | |
Rhagflaenwyd gan | Creu'r etholaeth |
Dilynwyd gan | Keith Taylor |
Manylion personol | |
Ganwyd | Malvern, Lloegr | 9 Rhagfyr 1960
Plaid wleidyddol | Plaid Werdd y DU (1986–1990) Plaid Werdd Cymru a Lloegr (1990–presennol) |
Priod | Richard Savage |
Alma mater | Prifysgol Caerwysg Prifysgol Kansas |
Gwefan | Gwefan swyddogol |
Gwleidydd o Loegr yw Caroline Patricia Lucas (ganwyd 9 Rhagfyr 1960) ac Aelod Seneddol y Blaid Werdd dros etholaeth seneddol Brighton Pavilion ers etholiad 2010. Hi oedd AS cynta'r Blaid Werdd yn Lloegr.
Cyn ei hethol yn Aelod seneddol, bu'n Aelod Senedd Ewrop (ASE) dros De-Ddwyrain Lloegr rhwng 1999 a 2010.[1][2] ac Arweinydd y Blaid Werdd rhwng 2008 a 2012; wedi hynny ildiodd ei sedd er mwyn rhoi mwy o amser i'w gwaith fel AS yn San Steffan.
Mae'n nodedig am ei hymgyrchu brwd ac fel awdur llyfrau ar faterion gwyrdd: economeg, globaleiddio, masnach a lles anifeiliaid. Dros y blynyddoedd mae Caroline wedi gweithio gyda nifer o NCOs (mudiadau di-lywodraeth) a phwyllgorau creu polisiau gan gynnwys yr RSPCA, yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear ac Oxfam.