Math | cadwyn o fynyddoedd, mynyddoedd nad ydynt yn gysylltiedig, yn ddaearegol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Carpi |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | llain Alpid |
Gwlad | Serbia, Wcráin, Awstria, Tsiecia, Slofacia, Gwlad Pwyl, Hwngari, Rwmania |
Uwch y môr | 2,655 metr |
Cyfesurynnau | 47°N 25.5°E |
Hyd | 1,700 cilometr |
Cadwyn o fynyddoedd yw'r Carpatiau[1] neu Fynyddoedd Carpathia (Pwyleg, Slofaceg a Tsieceg: Karpaty; Hwngareg: Kárpátok, Rwmaneg: Carpaţi, Serbeg: Karpati (Карпати); Wcreineg: Karpaty (Карпати)) sy'n ymestyn fel bwa o tua 1,500 km (932 milltir) ar draws Canolbarth a Dwyrain Ewrop. Dyma'r gadwyn fwyaf ar gyfandir Ewrop, sy'n cynnig cynefin i'r poblogaethau uchaf yn Ewrop o eirth brown, bleiddiaid, chamois a lynx, ynghyd â thraean o rywogaethau planhigion Ewrop. Gerlachovský štít (2,655 m / 8,711 tr) yn Slofacia yw'r mynydd uchaf.
Cadwyn o gadwynau llai yw'r Carpatiau, sy'n ymestyn o'r Weriniaeth Tsiec yn y gogledd-orllewin i Slofacia, Gwlad Pwyl, Hwngari, Wcráin a Rwmania yn y dwyrain, hyd at y 'Pyrth Haearn' ar Afon Daniwb rhwng Rwmania a Serbia yn y de. Y gadwyn uchaf yn y Carpatiau yw'r Tatra Uchel, am y ffin rhwng Gwlad Pwyl a Slofacia, lle mae'r copaon uchaf yn cyrraedd hyd at 2,600 m (8,530 troedfedd) o uchder, ac sy'n cael eu dilyn gan y Carpatiau Deheuol yn Rwmania, lle ceir copaon o hyd at 2,500 m (8,202 tr). Fel rheol mae daearyddwyr yn rhannu'r Carpatiau yn dair rhan fawr: y Carpatiau Gorllewinol (Gweriniaeth Tsieic, Gwlad Pwyl, Slofacia, Hwngari), y Carpatiau Dwyreiniol (de-ddwyrain Gwlad Pwyl, dwyrain Slofacia, Wcráin, Rwmania) a'r Carpatiau Deheuol (Rwmania, Serbia).
Mae'r dinasoedd pwysicaf yn y Carpatiau neu'r cyffiniau yn cynnwys Bratislava a Košice yn Slofacia; Krakow yng Ngwlad Pwyl; Cluj-Napoca, Sibiu a Braşov yn Rwmania; a Miskolc yn Hwngari.
Mae'r gadwyn yn cynnwys ardal Transylfania yn Rwmania, ardal o fryniau coediog a gysylltir â chwedl Cownt Draciwla.