Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Casnewydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5455°N 3.078°W |
Cod OS | ST253835 |
Cod post | CF3 |
Gwleidyddiaeth | |
Pentref bychan yng nghymuned Maerun, Casnewydd, Cymru, yw Cas-bach[1] (Saesneg: Castleton).[2] Saif i'r gorllewin o ddinas Casnewydd, hanner ffordd rhwng canol y ddinas hon a Chaerdydd. Y sillafiad yn 1536-9 oedd 'Castelle Behan'.[3]
Mae'r pentref yn lleoliad i hen domen, neu fwnt, o'r Oesoedd Canol o'r un enw, heb y mur gwarcheidiol arferol, sef y “beili”. Lleoliad: Maerun, Casnewydd; cyfeiriad grid ST251834. Fe godwyd y rhan fwyaf o'r tomenni hyn yng Nghymru rhywdro rhwng degawdau olaf yr 11g ac ail hanner y 12g allan o bridd a charreg, gyda ffos o'u cwmpas fel rheol. Y Normaniaid ddaeth â'r math hwn o amddiffynfa o Ffrainc i wledydd Prydain a mabwysiadwyd y dechnoleg gan y Cymry. Fe'i cofrestrwyd gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: MM131 .[4]
Mae'r clwstwr mwyaf o'r tomennydd hyn drwy wledydd Prydain i'w weld yn ardal y gororau (neu'r Mers): sef Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Swydd Henffordd, Powys a Sir y Fflint fel y caiff ei adnabod heddiw.[5]