Cassiodorus | |
---|---|
Delwedd Cassiodorus yn Gesta Theodorici (12g, Prifysgol Leiden, Ms. vul. 46, fol. 2r) | |
Ganwyd | c. 487 Scylletium |
Bu farw | 583 Scylletium |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Fysantaidd |
Galwedigaeth | gwleidydd, hanesydd, cerddolegydd, llenor, damcaniaethwr cerddoriaeth, athronydd |
Swydd | seneddwr Rhufeinig |
Adnabyddus am | Institutiones divinarum et saecularium litterarum, Anecdoton Holderi, History of the Goths, Historia ecclesiastica tripartita, Chronicle |
Hanesydd ôl-Rufeinig (neu Fysantaidd) a gwladweinydd oedd Flavius Magnus Aurelius Cassiodorus Senator neu Cassiodorus (c.490 - c.580), a aned yn Scyllaceum (Squillace heddiw) yn Nghalabria, de'r Eidal. Roedd Cassiodorus yn weinidog ac ymgynghorwr i Theodoric Fawr, brenin yr Ostrogothiaid yn yr Eidal, ac yn nes ymlaen yn brif weinidog i'w olynydd y Frenhines Amalasontha.
Tua'r flwyddyn 540 ymddeolodd Cassiodorus o fywyd cyhoeddus er mwyn cysegru gweddill ei ddyddiau i lenydda ac astudio. Sefydlodd fynachlog yn Vivarium ar arfordir y Môr Ionaidd a hyrwyddai'r gwaith o gopïo llawysgrifau Clasurol. Ei brif gyfraniad i lenyddiaeth yw ei wyddoniadur ar ddysg a'r Saith Celfyddyd a baratowyd ar gyfer ei fynachod, sef yr Institutiones divinarum et saecularium litterarum. Daeth y llyfr yn waith safonol yn yr Oesoedd Canol a astudid ledled Ewrop. Cyfansoddodd yn ogystal hanes y Gothiaid sydd ar goll bellach ond yn adnabyddus i ni diolch i'r crynodeb ohono a wnaed gan yr ysgolhaig Jordanes (fl. 6g).