Math | castell |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dulyn |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Cyfesurynnau | 53.3431°N 6.2674°W |
Perchnogaeth | Llywodraeth yr Iwerddon |
Mae Castell Dulyn (Gwyddeleg: Caisleán Bhaile Átha Cliath) yn gyfadeilad caerog mawr a fu'n gartref i lywodraeth Prydain yn Iwerddon hyd 1922 a sydd bellach yn rhan o weinyddiaeth Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon. Mae llawer o'r cyfadeilad yn dyddio o'r 18g, er bod castell yn y lle hwnnw eisoes o ddyddiau John, brenin Lloegr, Arglwydd cyntaf Iwerddon. Gwasanaethodd y Castell fel sedd llywodraeth Lloegr (llywodraeth Prydain yn ddiweddarach) yn Iwerddon o dan Arglwyddiaeth Iwerddon (1171 - 1541), Teyrnas Iwerddon (1541-1800) a Theyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon (1800 - 1922). Lleolir y Castell yn ninas Dulyn.