![]() | |
Math | castell ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Cilgerran ![]() |
Sir | Pen-y-bont ar Ogwr |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 38.7 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.057069°N 4.634314°W ![]() |
Rheolir gan | Cadw ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Cadw ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | PE002 ![]() |
Mae Castell Cilgerran yn gastell Normanaidd o'r 13g yn Nghilgerran, Sir Benfro, ger Aberteifi.
Saif y castell ar drwyn o graig uwchlaw Afon Teifi. Credir mai castell mwnt a beili a godwyd ar y safle yn wreiddiol tua'r flwyddyn 1100. Mae'r castell carreg presennol yn dyddio o ddechrau'r 13g. Fe'i lleolwyd yng ngogledd cwmwd Emlyn Is Cuch, cantref Emlyn.
Cysylltir y castell â'r hanes am gipio Nest gwraig Gerallt o Windsor gan Owain ap Cadwgan a phymtheg cydymaith ar ŵyl Nadolig 1109. Cyfeirir Brut y Tywysogion at "Gastell Cenarth Bychan", a chredir mai Cilgerran a olygir.
Yn 1215 cipiwyd y castell gan Llywelyn Fawr yn ei gyrch yn ne Cymru.
Yn 1223 ail-gipiwyd y castell gan William Marshal, a gododd y castell yn ei ffurf bresennol. Mae'r castell yn adfail heddiw, ond erys dau dŵr sylweddol yn dal i sefyll.
Mae nifer o artistiaid wedi peintio'r castell gan gynnwys Turner.