![]() | |
Math | castell ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Castell Conwy a muriau'r dref ![]() |
Lleoliad | Conwy ![]() |
Sir | Conwy |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 6 ha ![]() |
Uwch y môr | 21.8 metr, 23 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.28°N 3.83°W ![]() |
Rheolir gan | Cadw ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Edward I, brenin Lloegr ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Sefydlwydwyd gan | Edward I, brenin Lloegr ![]() |
Manylion | |
Deunydd | calchfaen ![]() |
Dynodwr Cadw | CN004 ![]() |
Castell canoloesol yn nhref Conwy ar lan afon Conwy yw Castell Conwy. Cynllunwyd y castell gan y pensaer Ffrengig James o St George ac fe'i adeiladwyd gan Edward I, brenin Lloegr, er fod Rhisiart o Gaer yn gyfrifol yn y dechrau (1283). Adeiladwyd y castell a'r dref gaerog ar ben adfeilion Abaty Aberconwy, a ddinistrwyd gan Edward er mwyn defnyddio'r safle, ac mae mur o gwmpas y dref gyfan gan mai Saeson oedd trigolion y dref newydd. Roedd Castell Conwy, yn wahanol i nifer o gestyll eraill James o St George, heb fod yn gonsentrig ond yn cael ei godi yn ôl cynllun llinellol oherwydd ffurf y safle creigiog. Mae'r wyth tŵr anferth gyda'u tyredau a'r muriau cysylltu i gyd yn gyfan.[1]
Mae'r castell yng ngofal Cadw. Fe'i gosodwyd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1986, fel rhan o'r safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.[2]