![]() | |
Math | cymuned, pentrefan ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 323 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ![]() |
Sir | Sir Benfro ![]() |
Gwlad | ![]() |
Yn ffinio gyda | Nolton a'r Garn ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8°N 5.1°W ![]() |
Cod SYG | W04000483 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Stephen Crabb (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref a chymuned yn ne Sir Benfro, Cymru, yw Castell Gwalchmai (Saesneg: Walwyn's Castle). Saif i'r gogledd-orllewin o dref Aberdaugleddau. Ar un adeg roedd yn farwniaeth Normanaidd yn ddibynnol ar arglwyddiaeth Penfro. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn un o ganolfannau lleyg pwysicaf cantref Rhos.
Heblaw Castell Gwalchmai ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Hasguard a Roberston West. Yn 2001 roedd poblogaeth y gymuned yn 304.
Cred rhai ysgolheigion mai Gwalchmai ap Gwyar yw'r Gwalchmai sy'n cael ei goffhau yn yr enw.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[2]