![]() Eglwys plwyf Castellmartin | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.645°N 5.015°W ![]() |
Cod OS | SR914984 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Simon Hart (Ceidwadwr) |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Pentref a phlwyf eglwysig yng nghymuned Y Stagbwll a Chastellmartin, Sir Benfro, Cymru, yw Castellmartin[1] neu Castell Martin (Saesneg: Castlemartin).[2] Saif heb fod ymhell o'r arfordir, 8 km i'r de-orllewin o dref Penfro ac i'r de o Ddoc Penfro. Cyn 2011, pan ymunwyd â'r Stagbwll roedd yn gymuned ynddo'hun.
Mae'r plwyf hefyd yn cynnwys pentref bychan Warren a tua 12 km o arfordir. O amgylch Warren mae llawer o'r tir yn eiddo i'r fyddin, sy'n ei ddefnyddio ar gyfer ymarfer tanio fel Maes Tanio Tanciau Castell Martin, sydd tua 2400 hectar o arwynebedd. Rhed Llwybr Arfordir Sir Benfro trwy'r ardal, ond oherwydd presenoldeb y fyddin mae'n gorfod cadw yn weddol bell o'r arfordir mewn rhan o'r ardal, er ei fod yn croesi'r maes tanio gorllewinol pan nad oes tanio. Roedd poblogaeth y plwyf yn 147 yn 2001.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[4]