Enghraifft o: | iaith, iaith fyw |
---|---|
Math | Occitano-Romance |
Rhan o | Ieithoedd rhanbarthol Ffrainc, Ieithoedd Sbaen, ieithoedd yr Eidal, languages of Andorra |
Yn cynnwys | Eastern Catalan, Western Catalan |
Enw brodorol | català |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | ca |
cod ISO 639-2 | cat |
cod ISO 639-3 | cat |
Gwladwriaeth | Sbaen, Ffrainc, Andorra, yr Eidal |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin |
Corff rheoleiddio | Institut d'Estudis Catalans, Acadèmia Valenciana de la Llengua |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o'r ieithoedd Romáwns yw Catalaneg (neu Catalwneg; Catalaneg: Català). Heblaw Catalwnia ei hun, siaredir yr iaith yn Andorra, Falensia, yr Ynysoedd Balearig ac yn ne-orllewin Ffrainc.[4] Yn ieithyddol, mae dau brif grŵp tafodieithol yn y Gatalaneg fodern: y tafodieithoedd gorllewinol, gan gynnwys Catalaneg y Gorllewin a Falensianeg; a'r grŵp dwyreiniol, gan gynnwys Catalaneg y Dwyrain, Baleareg, a Roussillonnais a'r dafodiaith a siaredir yn Alghero.[5][6] Cyfeirir at y tiriogaethau lle siaredir Catalaneg fel y Països Catalans gan genedlaetholwyr.