Catalunya | |
Math | Gwlad |
---|---|
Enwyd ar ôl | Y Catalwniaid |
Prifddinas | Barcelona |
Poblogaeth | 7,747,709 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Els Segadors |
Pennaeth llywodraeth | Salvador Illa Roca |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Nawddsant | Siôr, Morwyn Montserrat |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Catalaneg, Sbaeneg, Ocsitaneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Pyreneau'r Canoldir |
Lleoliad | Països Catalans |
Arwynebedd | 31,895 km² |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Yn ffinio gyda | Ocsitania, Aragón, Valencia, Andorra, Encamp, Escaldes-Engordany, Sant Julià de Lòria, Andorra la Vella, La Massana |
Cyfesurynnau | 41.8375°N 1.5378°E |
ES-CT | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Catalwnia |
Corff deddfwriaethol | Llywodraeth Catalwnia |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywyddion Catalwnia |
Pennaeth y Llywodraeth | Salvador Illa Roca |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | 238.3 million € |
Arian | Ewro |
Canran y diwaith | 11.7 canran, 13.23 canran |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.904 |
Mae Catalwnia (Catalaneg: Catalunya, Araneg: Catalonha Sbaeneg: Cataluña) yn wlad Ewropeaidd a gyhoeddodd ddatganiad o annibyniaeth ar 27 Hydref 2017. Mewn pleidlais ar y diwrnod hwnnw, oherwydd bygythiadau treisgar Llywodraeth Sbaen, cyhoeddodd Llywodraeth Catalwnia ei bod yn sefydlu Gweriniaeth Catalwnia o 70 pleidlais i 10.[1] Tan hynny bu'n cael ei chyfri gan Sbaen a rhai gwledydd eraill fel un o gymunedau ymreolaethol Sbaen. Mae Catalwnia yng ngogledd-ddwyrain Iberia, yn ffinio â Ffrainc ac Andorra i'r gogledd, â Môr y Canoldir yn y dwyrain, â chymuned ymreolaethol Aragón yn y gorllewin. Mae Ynysoedd Medas hefyd yn rhan o Gatalwnia.
Rhennir Catalwnia yn bedair talaith:
Enwyd y taleithiau hyn ar ôl y dinasoedd: Barcelona, Girona, Lleida a Tarragona.
Yn Nhachwedd 2014 cynhaliodd Llywodraeth Catalwnia Refferendwm Catalwnia 2014, yn groes i orchymyn gan Lywodraeth Sbaen; pleidleisiodd dros 80% o blaid bod yn Wladwriaeth annibynnol, gyda dros dwy filiwn o bobl wedi bwrw'u pleidlais. Ar 27 Medi 2015, cynhaliwyd Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015, ble gwelwyd y pleidiau a oedd o blaid annibyniaeth yn uno gyda'i gilydd. Ar 1 Hydref 2017 cynhaliwyd Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 a gynhaliwyd gan Gyngor Arbennig Catalwnia (yr Consell Executiu), er i Lywodraeth Sbaen fynegi fod cynnal y refferendwm yn anhyfreithiol. Oherwydd hyn, symudwyd rhai miloedd o heddlu Sbaen i Gatalwnia i geisio atal y broses.
Cynhelir diwrnod Catalwnia, sef La Diada flynyddol ar 11 Medi,[2] a gwnaed hynny ers 'Y Cyrch ar Farcelona' yn 1714. Mae'n ddiwrnod o ddathiad bodolaeth y gymuned ymreolaethol, ond hefyd yn atgoffa pobl i'r y gymuned ymreolaethol golli eu system ddeddfau wedi'r cyrch hwnnw.