Enghraifft o: | band |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Label recordio | Blanco y Negro Records |
Dod i'r brig | 1992 |
Dechrau/Sefydlu | 1992 |
Genre | roc amgen, ôl-Britpop |
Yn cynnwys | Cerys Matthews, Mark Roberts |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Band Cymreig oedd Catatonia. Yr aelodau oedd Cerys Matthews, Mark Roberts, Paul Jones, Owen Powell, Aled Richards, Dafydd Ieuan, Clancy Pegg a Kris Jenkins, roedd Jevon Hurst yn gyn-aelod. Daethant i'r amlwg yn y Deyrnas Unedig tuag at ddiwedd y 1990au. Roedd Cerys Matthews yn canu, Mark Roberts ar gitâr, Paul Jones ar gitâr fâs (y ddau hefyd yn gyn-aelodau o'r Ffyrc, Sherbet Antlers a'r Cyrff), Owen Powell ar gitâr, ac Aled Richards (sydd heddiw'n drymio ar gyfer Amy Wadge) ar y drymiau. Roberts oedd y prif ysgrifennwr caneuon. Newidiodd aelodau'r band yn aml ar y cychwyn, gan gynnwys Clancy Pegg (a ymunodd â'r Tystion yn hwyrach) ar yr allweddellau, Dafydd Ieuan a Kris Jenkins (o'r Super Furry Animals) ar drymiau ac offerynnau taro, cyn setlo ar y ffurf diweddaraf yn 1995.