Cath | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Carnivora |
Teulu: | Felidae |
Genws: | Felis |
Rhywogaeth: | F. silvestris |
Isrywogaeth: | F. s. catus |
Enw trienwol | |
Felis silvestris catus (Linnaeus, 1758) | |
Cyfystyron | |
Felis catus |
Mae’r gath (Felis catus neu domesticus) yn famal bach cigysol dof sydd â blew meddal, trwyn byr wisgerog ac ewinedd gwrthdynnol. Mae’n anifail anwes a fegir am ei chwmnïaeth, yn aml, a’i gallu i hela pryf a nadroedd a hynny ers o leiaf 9,500 o flynyddoedd.[1]
Mae’n heliwr celfydd, a cheir dros fil o wahanol fathau. Gellir ei hyfforddi i ufuddhau i orchmynion syml. Mae rhai cathod penodol yn enwog am allu gweithio systemau mecanyddol syml fel dyrnau drysau. Mae cathod yn defnyddio nifer o wahanol fathau o synau ac iaith-gorfforol wrth gyfathrebu. Gyda 600 miliwn o gathod fel anifeiliad anwes ledled y byd, cathod, mae’n bosib, yw’r anifail anwes mwyaf poblogaidd yn y byd.[2]
Credir mai yn yr Hen Aifft y cafodd y cathod cyntaf eu bridio, ond fe ddarganfuwyd mewn astudiaeth yn 2007 mai yn y Dwyrain Canol - a hynny dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl.
Gall cath fod yn gath tŷ (neu’n gath anwes), yn gath fferm neu’n gath ledwyllt (neu’n gath grwydr); mae’r olaf yn byw’n rhydd ac yn osgoi cyswllt dynol.[3][4] Gwerthfawrogir y gath ddof gan bobl am ei chwmnïaeth a’u gallu i ladd cnofilod fel llygod. Ceir tua 60 o fridiau gwahanol o gathod.[5]
Mae’r gath yn debyg o ran anatomeg i’r rhywogaethau cathaidd arall: mae ganddi gorff hyblyg cryf, gydag atgyrchau cyflym, dannedd miniog a chrafangau y gellir eu tynnu a'u moeli er mwyn lladd ysglyfaeth bach. Mae ei golwg yn y nos a'i synnwyr arogli wed datblygu'n dda. Mae cyfathrebu cath yn cynnwys lleisiau fel mewian a chanu grwndi, hisian, chwyrlio a rhochian yn ogystal ag iaith y corff sy'n unigryw i gathod. Mae' fwyaf gweithgar gyda'r wawr a'r cyfnos ac yn heliwr unig ond yn rhywogaeth gymdeithasol. Gall glywed synau rhy wan neu'n rhy uchel o ran amledd - a synau sy'n rhy uchel i glustiau dynol, fel y synau a wneir gan lygod a mamaliaid bach eraill.[6] Mae cathod hefyd yn secretu ac yn canfod arogl fferomonau.[7]
Gall cathod dof benywaidd feichiogi rhwng y gwanwyn a diwedd yr hydref, gyda meintiau'r torllwyth yn aml yn amrywio o ddwy i bum cath fach.[8] Mae cathod dof yn cael eu bridio a'u harddangos mewn digwyddiadau fel cathod pedigri cofrestredig. Gall ysbaddu effeithio ar boblogaeth cathod, ond mae cathod ledled y byd ar gynnydd a phoblogaethau o adar yn gostwng[9]
Dofwyd y gath gyntaf yn y Dwyrain Agos tua 7,500 CC.[10] Tybiwyd ers tro bod dofi cathod wedi dechrau yn yr hen Aifft, lle roedd cathod yn cael eu parchu o tua 3100 CC.[11][12] Yn 2020 amcangyfrifir bod 220 miliwn o gathod dan berchnogaeth a 480 wedi mynd yn y gwyllt.[13][14] Yn 2017 y gath ddof oedd yr ail anifail anwes mwyaf poblogaidd yn yr Unol Daleithiau, gyda 95.6 miliwn o gathod yn berchen[15][16][17] a tua 42 miliwn o gartrefi yn berchen ar o leiaf un gath.[18] Yn y Deyrnas Unedig, mae gan 26% o oedolion gath, ac amcangyfrifir bod poblogaeth y cathod anwes yn 10.9 miliwn erbyn 2020.[19]
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Driscoll_al2009
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Rochlitz