Cats | |
Cerddoriaeth | Andrew Lloyd Webber |
---|---|
Geiriau | T. S. Eliot Trevor Nunn |
Llyfr | Andrew Lloyd Webber Trevor Nunn Gillian Lynne |
Seiliedig ar | Old Possum's Book of Practical Cats gan T. S. Eliot |
Cynhyrchiad | 1980 Cyngherdd 1981 West End Llundain |
Gwobrau | Gwobr Laurence Olivier am y Sioe Gerdd Orau Gwobr Olivier am Goreograffeg Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau Gwobr Tony am y Llyfr Gorau Gwobr Tony am y Sgôr Wreiddiol Orau |
Sioe gerdd a gyfansoddwyd gan Andrew Lloyd Webber ydy Cats. Mae'n seiliedig ar Old Possum's Book of Practical Cats gan T. S. Eliot.
Agorodd y sioe gerdd yn West End Llundain ym 1981 ac yna ar Broadway ym 1982. Cafodd y ddau gynhyrchiad eu cyfarwyddo gan Trevor Nunn ac fe'u coreograffwyd gan Gillian Lynne. Enillodd amryw wobrau, gan gynnwys Gwobr Laurence Olivier a'r Wobr Tony am y Sioe Gerdd Orau. Rhedodd y cynhyrchiad yn Llundain am 21 mlynedd a'r cynhyrchiad Americanaidd am 18 mlynedd. Caiff yr actoresau Elaine Paige a Betty Buckley eu cysylltu â'r sioe gerdd.
Mae Cats wedi cael ei pherfformio ledled y byd mewn cynyrchiadau amrywiol ac mae wedi cael ei chyfieithu i dros ugain o ieithoedd. Cafodd ei wneud yn ffilm a ddarlledwyd ar y teledu ym 1998.