![]() | |
Math | ynys ![]() |
---|---|
Prifddinas | Argostoli ![]() |
Poblogaeth | 36,064 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Ionaidd ![]() |
Lleoliad | Môr Ionia ![]() |
Sir | Bwrdeistref Kefalonia, Kefalonia Prefecture, Kefalonia Regional Unit ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 734.014 km² ![]() |
Uwch y môr | 1,620 metr ![]() |
Gerllaw | Môr Ionia ![]() |
Cyfesurynnau | 38.265°N 20.5525°E ![]() |
Cod post | 280 ![]() |
Hyd | 48 cilometr ![]() |
![]() | |
Ynys yn perthyn i Wlad Groeg yw Ceffalonia (Groeg: Κεφαλλονιά neu Κεφαλονιά; Hen Roeg: Κεφαλληνία). Hi yw'r fwyaf o'r Ynysoedd Ionaidd, gydag arwynebedd o 350 km2. Saif ger arfordir gorllewinol Groeg.
Poblogaeth yr ynys yng nghyrifiad 2001 oedd 36,404, ond amcangyfrifir ei fod yn awr wedi cyrraedd 45,000. Yn y 1990au, roedd cynnydd y boblogaeth yn gyflynach nag unrhyw fan arall yng Ngroeg. Argostoli yw'r brifddinas, ac mae Lixouri hefyd o faint sylweddol.
Mae copa uchaf yr ynys, Mynydd Ainos,yn 1,628 medr o uchder. Amaethyddiaeth yw'r diwydiant pwysicaf, ond mae twristiaeth hefyd yn bwysig, ac wedi cynyddu ers ymddangosiad llyfr a ffilm Captain Corelli's Mandolin, sydd wedi ei osod ar yr ynys.