Math | fermented milk product, diod wedi'i eplesu, fermented milk products, other than sour cream and cottage cheese, yoghurt and other types of milk or cream, fermented or soured, Q26868453, cynnyrch llaeth, diod feddal |
---|---|
Rhan o | Circassian cuisine |
Yn cynnwys | llaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daw Ceffir (arddelir y sillafiar Saesneg, Kefir hefyd gan rai; yngenir, IPA : /'kɛfir/ neu /ke'fir/ yn Saesneg [1][2]; Rwsieg: кефир) o'r gair Twrcaidd keyif, sy'n golygu "hyfrydwch".[3] neu o'r Hen Dyrceg, köpür. Ond credir hefyd y gall ddod tarddiad etymolegol arall o wahanol ieithoedd y Cawcasws; cymharer Georgeg კეფირი (k’epiri), Mingreleg ქიფური (kipuri), Oseteg къӕпы (k’æpy), a Karachay-Balkar гыпы (gıpı). Gall y trawsnewid p i f awgrymu trosglwyddiad posibl i Rwsieg trwy Arabeg كِفِير (kifīr), a fyddai wedi gwasanaethu fel lingua franca yn rhannau Mwslemaidd y Cawcasws.