![]() | |
Math | horse hill figure, safle archaeolegol ![]() |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Sir | Uffington ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 261 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5777°N 1.56675°W ![]() |
Cod OS | SU3011786633 ![]() |
Hyd | 100 metr ![]() |
Rheolir gan | English Heritage ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ![]() |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Deunydd | sialc ![]() |
Mae Ceffyl Gwyn Uffington yn ffigwr 374 troedfedd (110 m) o hyd o geffyl gwyn wedi'i dorri o'r fawn ar lethr bryn Castell Uffington, bryngaer o Oes yr Haearn ger Y Ridgeway, yn Swydd Rydychen, De-ddwyrain Lloegr. Cyn newidiadau ffiniau ym 1974 roedd y bryn yn Berkshire. Dyma'r unig geffyl gwyn yn yr ardal sy'n sylweddol o hen; mae'r eraill yn gymharol fodern, wedi'u creu dim mwy na dwy neu dair canrif yn ôl. Fe'i leolir tua 5 milltir i'r de o dref Faringdon a thua'r un pellder i'r gorllewin o Wantage. Enwir y bryn y ceir y Ceffyl arno yn Fryn y Ceffyl Gwyn (White Horse Hill) a'r bryniau o gwmpas yn Fryniau'r Ceffyl Gwyn (White Horse Hills). Enwir ardal yr awdurdod lleol, Ardal Vale of White Horse, ar ei ôl hefyd.
Mae rhai ysgolheigion yn gweld cysylltiad rhwng y Ceffyl Gwyn a'r dduwies Geltaidd Epona, (Rhiannon ym Mhedair Cainc y Mabinogi) a Macha mewn chwedloniaeth Gwyddelig. Efallai fod adlais o addoliad y dduwies yn nhraddodiad Y Fari Lwyd hefyd.