Safleoedd Rygbi'r Undeb |
---|
Blaenwyr
Cefnwyr |
Safle chwaraewr rygbi'r undeb ydy cefnwr (rhif 15), sy'n sefyll yn ôl i sicrhau pob amddiffyniad posibl. Gan mai ef fydd yn aml yr amddiffynnwr olaf mae sgiliau taclo da yn hanfodol. Rhaid iddo ddal y ciciau uchel ac ar ôl dal y ciciau uchel gall ddewis cicio'r bêl yn ôl, felly mae bod yn ymwybodol o'r posibiliadau a'r gallu i gicio yn hanfodol. Defnyddir y cefnwr i ddechrau gwrth-ymosodiad yn aml.