Ceidwadwyr Cymreig Welsh Conservatives | |
---|---|
Arweinydd Grwp Ceidwadol Cymreig | Darren Millar |
Llywydd | Arglwydd Davies o Gŵyr |
Sefydlwyd | 1921 |
Pencadlys | Uned 5 Tŷ Rhymney Parc Ty Glas Llanisien Caerdydd CF14 5DU |
Rhestr o idiolegau | |
Sbectrwm gwleidyddol | Canol-dde |
Partner rhyngwladol | Undeb y Democratiaid Rhyngwladol |
Cysylltiadau Ewropeaidd | Cynghrair y Ceidwadwyr a Diwygwyr yn Ewrop |
Cysylltiad Senedd y DU | Y Blaid Geidwadol (DU) |
Lliw | Glas |
Senedd Cymru | 16 / 60 |
Tŷ'r Cyffredin (Seddi Cymru) | 14 / 40 |
Llywodrath leol[2] | 166 / 1,253 |
Gwefan | |
ceidwadwyr.cymru/cy |
Y Ceidwadwyr Cymreig yw cangen ffederal y Blaid Geidwadol yng Nghymru. Yn etholiadau San Steffan, hi yw'r blaid wleidyddol ail-fwyaf poblogaidd yng Nghymru, ar ôl sicrhau'r gyfran ail fwyaf o'r bleidlais ym mhob etholiad cyffredinol ers 1931.[3] Yn etholiadau Senedd Cymru, y Ceidwadwyr yw'r ail blaid fwyaf. Maen nhw'n dal 14 o'r 40 sedd Gymreig yn Senedd y DU, a 16 o'r 60 sedd yn y Senedd. Mae gan y blaid rheolaeth gyffredinol ar un awdurdod lleol, Cyngor Sir Fynwy.