Enghraifft o: | pwnc gradd, cysyniad amheus, gan rai, disgyblaeth academaidd, maes gwaith, sector economaidd, topic |
---|---|
Rhan o | diwylliant, y celfyddydau |
Cynnyrch | gwaith celf |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Campweithiau gweledol sydd yn gynnyrch medr dynol yw celf, yn llawn celfyddyd. Fel rheol, defnyddir y talfyriad "celf", neu weithiau celfyddydau cain, i gyfeirio at y celfyddydau gweledol, hynny yw paentio, darlunio, cerfluniaeth, ffotograffiaeth, a phensaernïaeth. Mae'r rhain yn gangen o'r ystod eang o weithgareddau a elwir y celfyddydau, sydd hefyd yn crybwyll y celfyddydau perfformio, gan gynnwys cerddoriaeth, dawns a'r theatr, a llenyddiaeth, gan gynnwys rhyddiaith a barddoniaeth.
Yn ogystal â'r amryw brosesau, technegau, a ffurfiau ar greu celf, mae celf yn bwnc testun disgyblaethau megis beirniadaeth celf ac hanes celfyddyd. Estheteg yw'r maes athronyddol sydd yn archwilio natur a diffiniad celf a chysyniadau tebyg, megis gallu creadigol a dehongli celfyddydweithiau.