Enghraifft o: | dosbarth o strwythurau anatomegol, math o gell |
---|---|
Math | cydadran neu elfen fiolegol, strwythur anatomegol |
Rhan o | strwythur amlgellog, group of cells, meinwe |
Yn cynnwys | cydran cellog |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Uned sylfaenol pob organeb fyw yw cell. Y gell yw'r uned fiolegol leiaf sy'n gallu dyblygu'n annibynnol, drwy broses cellraniad. Bioleg cell yw'r gangen o'r gwyddorau bywyd sy'n astudio celloedd. Mae rhai nodweddion cyffredin i bob cell, a nifer o gelloedd arbennig yn dangos nodweddion ychwanegol. Mae i bob cell cytoplasm y tu mewn i gellbilen, sy'n cynnwys biomoleciwlau megis proteinau ac asidau niwclëig.[1] Y gellbilen sy'n amddiffyn y gell ac yn gweithredu fel hidlydd o'i hamgylch, gan adael sylweddau i ddianc o'r gell neu ddod i mewn iddi trwy broses o drylediad neu osmosis. Cludir sylweddau hanfodol ar draws y gellbilen trwy gludiant actif, sef proses sy'n defnyddio ynni i symud sylwedd yn erbyn y graddiant crynodiad. Mae i bob cell hefyd DNA sy'n cynnwys ei wybodaeth genetig. Yn ogystal â chellraniad, mae tasgau cyffredin sylfaenol y gell yn cynnwys metabolaeth, sy'n newid defnydd newydd i ynni ac yn gwaredu defnydd gwastraff, a synthesis protinau trwy drawsgrifio DNA i mRNA ac mRNA i brotinau.
Dosbarthir organebau yn fodau ungellog ac amlgellog. Organebau ungellog procaryotig megis bacteria oedd y ffurf gyntaf ar fywyd ar y Ddaear. Mae planhigion, anifeiliaid, ffyngau, protosoaid, llwydni llysnafeddog, ac algâu i gyd yn ewcaryotau. Gall ewcaryot fod yn ungellog neu'n amlgellog, ond y peth sy'n ei hynodi yw'r cnewyllyn. Amrywia'r nifer o gelloedd o un rywogaeth i'r llall, er enghraifft mwy na 10 triliwn (1012) sydd gan y corff dynol.[2] Mae angen microsgop i weld y mwyafrif o gelloedd planhigion ac anifeiliaid, sy'n mesur rhwng 1 a 100 micrometr.[3]