Enghraifft o: | math o gell ![]() |
---|---|
Math | cell waed, cell hemal gwahaniaethol, immune cell ![]() |
Rhan o | gwaed ![]() |
Yn cynnwys | monocyt, lymffocyt, niwtroffil, basoffil, eosinophil ![]() |
![]() |
Cell waed di-liw amebaidd cnewyllol heb hemoglobin yw cell wen y gwaed (hefyd gwaetgell wen, corffilyn gwyn neu'n feddygol lewcosyt; lluosog: celloedd gwynion), sy'n rhan o'r system imiwnedd sy'n gyfrifol am amddiffyn y corff drwy ymladd micro-organebau drwg a chlefydau heintus. Cynhyrchir y gell wen ym mêr yr asgwrn. Mae'r gell yn tarddu o'r fôn-gell (stem cell) a elwir yn fôn-gell waedfagol (hematopoietig). Maent i'w cael ym mhob rhan o'r corff gan gynnwys y gwaed a'r system lymffatig.[1]
Ceir pum math o gell wen[2] a chânt eu dosbarthu a'u gwahaniaethu drwy faint a siâp y gell yn ogystal â'u gwaith.
Mae eu nifer yn dangos cyflwr y corff; gall ormod neu ddim digon ohonyn nhw fod yn arwydd o lewcemia neu ddiffyg haearn yn y corff. Gellir dweud, felly, fod y gell wen yn ddangosydd afiechyd. Mae'r gell iach rhwng 4 ac 119/L. Yn yr Unol Daleithiau, caiff ei fynegi fel 4,000–11,000 cell wen / microlitr o waed.[3] Dyma 1% o holl waed corff dynol oedolyn iach.[4] Pan fo nifer y celloedd gwyn yn uwch na'r norm, ceir lewcosytosis a phan fo'r nifer yn is, ceir lewcopenia.