![]() Eglwys yr Holl Saint, Cellan | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.128177°N 4.026168°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref bychan ar lan Afon Teifi yn ne Ceredigion yw Cellan.
Gorwedd ar lôn y B4343 tua 2½ filltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Llanbedr Pont Steffan a thua milltir i'r de o bentref Llanfair Clydogau.
Er mai pentref bychan iawn yw Cellan, bu'n fagwrfa i ddau ysgolhaig mawr. Ganed yr ieithydd a hynafiaethydd Moses Williams yng Nghellan yn 1685. Ganwyd yr hanesydd llenyddiaeth Gymraeg Griffith John Williams yn y pentref yn 1892.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]