Enw llawn | The Celtic Football Club | |||
---|---|---|---|---|
Llysenwau | The Bhoys, The Hoops, The Celts | |||
Sefydlwyd | 6 Tachwedd 1887 | |||
Maes | Parc Celtic Glasgow, Yr Alban (sy'n dal: 60,355[1]) | |||
Perchennog | The Celtic Football And Athletic Club Ltd[2] | |||
Cadeirydd | Peter Lawwell | |||
Rheolwr | Brendan Rodgers | |||
Cynghrair | Uwchgynghrair yr Alban | |||
2023/24 | 1. | |||
Gwefan | Hafan y clwb | |||
| ||||
Tymor cyfredol |
Tîm pêl-droed proffesiynol wedi'i leoli yn Glasgow, Yr Alban yw The Celtic Football Club (Gaeleg yr Alban: Club Ball-coise Celtic). Maen nhw'n chwarae yn Uwchgynghrair yr Alban, a'u stadiwm yw Parc Celtic. Ers eu sefydlu yn 1888, maent wedi cadw eu troed o fewn yr Uwchgynghrair. Ystyrir Rangers fel eu harchelyn, ac adnabyddir y ddau dîm fel the Old Firm.
Maent wedi bod yn bencampwyr ar Uwchgynghrair yr Alban ar 54 achlysur a Chwpan yr Alban 40 gwaith; ar ben hyn maent wedi curo Cwpan Cynghrair yr Alban (Scottish League Cup) 19 o weithiau.
Eu tymor gorau oedd 1966–67, pan ddaeth Celtic y tîm cyntaf o wledydd Prydain i guro Cwpan Ewrop, 1967; yr un flwyddyn cipiodd Celtic Gwpan Cynghrair yr Alban, Cwpan yr Alban a Phencampwriaeth Cynghrair yr Alban.[3][4].