Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,030, 980 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 4,368.34 ha |
Cyfesurynnau | 52.0448°N 4.5242°W |
Cod SYG | W04000496 |
Cod OS | SN268416 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Pentref a chymuned yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin yw Cenarth (neu Genarth Mawr fel y'i gelwid yn yr Oesoedd Canol), gyda rhan o'r pentref yng Ngheredigion. Saif yn agos i'r ffin a Sir Benfro hefyd, gyda naill ochr a llall y pentref ar ddwy lan Afon Teifi, 10 km i'r dwyrain o Aberteifi a 4 km i'r gorllewin o Gastell Newydd Emlyn.
Mae'r rhan fwyaf o’r ardal i'r de o Afon Teifi, yng nghantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Uwch Cuch. Cenarth Mawr oedd canolfan cwmwd Emlyn Uwch-Cych erbyn y 1100au, a sefydlwyd castell mwnt a beili (Parc-y-domen erbyn heddiw) yma yn dilyn ymosodiadau a gwladychu rhan o'r ardal gan yr Eingl-Sacsoniaid. Parc-y-domen, a leolir ychydig i'r de o'r eglwys leol oedd y ganolfan weinyddol. Erbyn y 1130au roedd y cwmwd yn ôl o dan reolaeth y Cymry ac felly y bu trwy'r 12g a'r 13g.[1]
Mae Rhaeadr Cenarth yn fan adnabyddus ac yn gyrchfan poblogaidd i ymwelwyr - sef un o'r prif resymau dros ddatblygiad y pentref yn ystod y cant a hanner o flynyddoedd diwethaf. Ychydig iawn o dai annedd oedd yma hyd at ddiwedd y 18g, fodd bynnag. Defnyddir cyryglau ar Afon Teifi hyd heddiw. Ceir disgrifiad gan Gerallt Gymro yn y 1180au fod Cenarth yn "safle pysgota eogiaid ffyniannus" a nodir fod yno "eglwys a gysegrwyd i Sant Llawddog, melin, pont a'i safle pysgota a gardd hynod ddeniadol i gyd ar ddarn bach o dir".
Cynrychiolir Cenarth yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[2][3]