Mae Cenedlaetholdeb Albanaidd yn dueddiad gwleidyddol o blaid annibyniaeth neu ymreolaeth wleidyddol yn yr Alban. Mae agweddau gwleidyddol a diwylliannol i'r ideoleg hon. Unwyd yr Alban â Lloegr (i greu'r Deyrnas Unedig) yn dilyn Deddf Uno 1707. Ni chymhathwyd rhai sefydliadau, fel y gyfraith, yr eglwys, ac addysg, ac mae hyn wedi helpu cadw teimlad o hunaniaeth ddiwylliannol a chenedligrwydd yn y wlad sy'n parhau heddiw.
Yn wahanol i genedlaetholdeb yng Nghymru, cymharol wan ydyw'r pwyslais ar iaith yng nghenedlaetholdeb yr Alban.
Mae barn yr Albanwyr am annibyniaeth wedi amrywio'n sylweddol ers y Ddeddf Uno. Darganfuwyd arolwg gan ICM yn Nhachwedd 2006 bod 51% o'r Albanwyr o blaid annibyniaeth.[1] Er i bobl yr Alban bleidleisio yn erbyn annibyniaeth yn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014, flwyddyn yn ddiweddarach, yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 roedd y nifer a bleidleisiodd i'r SNP wedi cynyddu'n aruthrol.