Enw ar y garfan ddemograffig yn Unol Daleithiau America sydd yn olynu to'r ymchwydd babanod wedi'r Ail Ryfel Byd ac yn rhagflaenu'r milflwyddwyr yw Cenhedlaeth X. Mae'n cyfeirio at y genhedlaeth a aned rhwng dechrau'r 1960au a diwedd y 1970au neu ddechrau'r 1980au; y cyfnod 1965–80 yn ôl un cyfrif poblogaidd.[1] Yn ôl y diffiniad hwn, mae data Cyfrifiad yr Unol Daleithiau yn dangos bod rhyw 65.2 miliwn o aelodau Cenhedlaeth X yn fyw yn yr Unol Daleithiau yn 2019, rhwng oedrannau 38 a 54.[2][3] Mae'r mwyafrif o aelodau Cenhedlaeth X yn blant i'r Genhedlaeth Fud, neu aelodau hynaf yr ymchwydd babanod;[4][5] mae plant Cenhedlaeth X yn filflwyddwyr[4] neu yn Genhedlaeth Z.[6] Defnyddir y term hefyd mewn ambell wlad arall ym myd y Gorllewin.
Defnyddiwyd y term Cenhedlaeth X ers y 1950au i ddisgrifio ieuenctid sydd wedi ymddieithro o'r hen do neu sydd yn anfodlon â'r gymdeithas a'r diwylliant sydd ohoni. Poblogeiddiwyd yr enw yn sgil cyhoeddi'r nofel Generation X: Tales for an Accelerated Culture (1991) gan yr awdur Canadaidd Douglas Coupland.
Siapiwyd plentyndod ac arddegau Cenhedlaeth X gan newidiadau cymdeithasol a diwylliannol y 1960au a'r 1970au megis llwyddiant y Mudiad Hawliau Sifil a mwy o ferched yn y gweithlu, yr epidemig crac cocên ac haint HIV yn y 1980au, a datblygiadau technolegol, yn bennaf cyfrifiaduron yn y cartref a gemau fideo. Cafodd niferoedd cynyddol o blant eu magu heb fawr o ofal, o ganlyniad i gyfraddau uwch o ysgariad a mamau yn gweithio y tu allan i'r cartref, ac o'r herwydd cawsant eu galw'n "blant allwedd drws". Yn y 1980au a'r 1990au, cafodd yr ieuenctid ei gysylltu â stereoteip y slacker a'i ymagwedd sinigaidd, eironig, a sarcastig. Roedd hoff fathau o gerddoriaeth y genhedlaeth yn cynnwys pync-roc, ôl-pync, metel trwm, a grunge.
Cenhedlaeth X oedd y genhedlaeth olaf i gyrraedd llawn oed yn ystod y Rhyfel Oer; mae'r milflwyddwyr ar y cyfan yn rhy ifanc i gofio'r cyfnod hwnnw.